Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Pam mae tymer ddrwg ar Dani Doyle, tad Dion a Dana? Nid yw'r plant yn medru gwneud dim   yn iawn iddo ac nid ydynt yn gwybod pam.  Mae eu tad yn gweithio fel dyn-gwneud-pob-dim mewn hen blasdy sydd wedi ei droi yn gartref henoed-Plas y Durtur.  Mae si ar led yn y pentref fod perchennog y cartref henoed yn awyddus i werthu'r hen adeilad.  Ar ôl cael llond bol o ymarfer at Eisteddfod yr ysgol mae Dion a Dana yn penderfynu mynd am dro i'r Plas. Cyn iddynt gyrraedd y Plas mae Dion yn syrthio i dwll mawr a dyma ddechrau'r helynt i'r ddau wrth geisio cael atebion i ddirgelwch hanes Plas y Durtur.

Beth mae Dion a Dana yn ei ddarganfod ar waelod y twll? A oes ysbryd ym Mhlas y Durtur? Ydi Dani Doyle yn cadw ei swydd? Ydi'r plant yn ennill yn yr Eisteddfod?

Os wyt ti eisiau gwybod yr atebion rhaid darllen y llyfr.  Mae'r stori gyffrous hon a'r lluniau gan un dyn dawnus, sef yr awdur a'r darlunydd Elwyn Ioan.

Mae'r llyfr hwn yn deitl arall yng nghyfres Llyfrau Lloerig.

 

Elwyn Ioan, Y Lolfa.