Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Stori am bobl sydd yn drewi, dyna ofnadwy, ond hanes doniol yw hwn am Twm Tat a’i wraig Mati sydd yn byw ym mhentref Pant- y- pwca.  Mae’r ddau yn byw yn hapus iawn yng nghanol eu blerwch a’u budreddi ond mae gan Miss Ceridwen Crach syniadau hollol wahanol.  Nid yw’n hapus o gwbl fod cartref Twm a Mati mewn cyflwr mor ofnadwy gydag arogl erchyll yn dod o bob twll a chornel. Mae’n ceisio cael gwared ohonynt o'r pentref ac felly mae'n ysgrifennu at y papur lleol amdanynt.

Mae llythyr Miss Crach yn creu helynt nid yn unig i Twm a Mati ond i Mrs Prosser-Pritchard, perchennog ty Twm a Mati ac i Neli Teli, y gohebydd teledu sydd yn dod i’r pentref i ddilyn y stori am yr arogl ffiaidd heb anghofio Plismon Jac o’r orsaf heddlu leol.  Ydi Miss Crach yn cael gwared o Mr a Mrs Tat o’r pentref?  Beth sydd yn digwydd i Mrs Prosser –Pritchard?   Mae’r atebion i gael yn y stori wyllt a digri’ hon.

Darlunydd y lluniau bywiog yw Marc–Vyvyan Jones ac mae’n werth edrych ar y llyfr dim ond i weld y darlun gwych o gartref Twm a Mati Tat -Ty Drewi.  Mae rhywun yn gallu oglau’r drewdod ffiaidd bron wrth edrych ar y manylion yn y llun gyda’r sbwriel a’r sothach ym mhob man!

Os wyt eisiau darllen llyfrau eraill doniol gan Martin Morgan mae ei hanesion Tad Cu ar gael yn y gyfres Llyfrau Lloerig sef Dannedd Dodi Tad-cu, Tad-cu yn Colli ei Ben a Tad-cu yn Mynd i’r Lleuad ac hefyd Y Ffenomen Ffrwydro Ffantastig .

Martin Morgan
Gwasg y Dref Wen £3.75