Tydi tylluanod ddim i fod ofnir
tywyllwch nac ydyn, ond buasain well o lawer gan Plop, y dylluan wen, fod yn aderyn
y dydd. Maen gwrthod yn lan a mynd i hela gyda gweddill ei deulu yn y nos, ac
yn y diwedd mae ei fam yn cael llond bol a dweud wrtho fo i fynd i ddarganfod rhywbeth am
y nos. Ar ol cael ei hel or nyth felly, mae Plop yn holi sawl person gwahanol, ac yn
dod i wybod lot mwy am y nos a pham maer nos yn golygu gymaint o bethau gwahanol i
bobol gwahanol.
Dyma stori hwyliog a hawdd ei
darllen, syn dangos ei bod hin wirion bod ofn rhywbeth na wyddwn ni ddim
amdano yn y lle cyntaf.
|