Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Ci bach ffyddlon Seimon a Siôn yw Sbeic. Un diwrnod mae’n penderfynnu mynd gyda nhw i’r ysgol.  Nid yw Seimon a Siôn yn gwybod am hyn ac maent yn brysio i Ysgol Gynradd Glyn Bach yn y bore heb sylwi pwy sydd yn eu dilyn yn ddistaw bach.  Ond, nid ysgol fach yw’r ysgol hon ac yn fuan iawn mae Sbeic yn mynd ar goll.

Os ydych eisiau gwybod beth sydd yn digwydd pan mae Sbeic yn mynd i ystafell yr athrawon, pan mae yn eistedd yn y dosbarth a beth yw ei farn am y cinio ysgol a chwarae rownderi - rhaid darllen y llyfr!

Darlunydd y lluniau doniol yw yr awdur ei hun. sef Colin West.  Mae nifer o luniau ardderchog.  Un o'r goruon yw gweld yr effaith y mae cloch yr ysgol yn ei gael ar Sbeic pan mae’n cysgu yn braf ar ôl yr holl ymdrech o ddilyn Seimon a Siôn.

Pam mae ci yn gwisgo sbectol?  Cwestiwn da - ac mae’r ateb i’w gael yn y llyfr cyntaf yn y gyfres Sbeic ac Eraill sef ‘Pam Mae Sbeic yn Gwisgo Sbectol'.  Y teitlau eraill yn y gyfres yw ‘Sbeic i Mynd i Barti' a 'Sbeic yn y Gwersyll'.

Awdur:  Colin West

Uned Iaith Genedlaethol Cymru