Ydych chin hoffi straeon am anifeiliaid?
Wel, stori am fochdew bach annwyl a direidus or enw Mins yw hon. Un oi hoff
bethau yw malu darnau o bapur yn ddarnau man, man, ac mae hynnyn yn ei arwain o
ai berchennog Sali yn aml i helyntion a thrybini.
Y tro hwn, mae on gwneud tyllau mawr yn y dillad mae Sali am eu gwisgo i Sioe
Ffasiwn Wncwl Waldo, ond darllenwch y llyfr i weld pam na chafodd Mins ormod o stwr am
wneud hynny! Roeddwn in hoffir darnau lle mae Mins yn meddwl mai bwganod yw
pawb syn dod ir ty ar darn lle mae Mins yn cael ei chwythu oi
gawell ac yn glanio ar ben het Wncwl Waldo.
Beth yw ystyr Trei yn y teitl? Wel, Treiners siwr iawn! Os y gwnaethoch hoffir stori
hon, mae llyfr stori arall am Mins, sef Mins Sbei ar gael.
|