Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae’r stori hon yn mynd â ni yn ôl i sut oedd bywyd yng Nghymru bron i 500 o flynyddoedd yn ôl. Merch o’r enw Hawys yw arwres y stori, ac mae hi’n byw gyda’i nain. Does dim llawer o bres ganddyn nhw, ac yn wir, yr unig beth o werth sydd ganddynt yw ceiliog o’r enw Cochyn, ac mae Hawys yn meddwl y byd ohono.

I gael pres mae nain Hawys yn cael ei thwyllo i werthu’r ceiliog i was drwg o’r enw Iorwerth o’r Plas gerllaw. Mae Hawys yn benderfynol o gipio Cochyn yn ôl, ac mae hi’n gwneud hynny mewn ffordd glyfar iawn.

Roeddwn i’n arbennig o hoff o’r ffordd mae Gwen Redvers Jones yn disgrifio bywyd pob dydd cannoedd o flynyddoedd yn ôl mor fyw, a hefyd y disgrifiadau o’r farchnad sydd ar ddiwedd y llyfr. Mae’r lluniau du a gwyn yn help hefyd i ddychmygu sut oedd pobl yn gwisgo ac yn byw erstalwm.

 

Teitl: Cochyn
Awdur: Gwen Redvers Jones
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer (Cyfres Corryn)
ISBN: 1859027806
Pris: £3.50