Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Meddyliwch - cael treulio gwyliau’r haf ar draeth yn helpu eich nain i werthu hufen iâ mewn fan newydd sbon danlli oedd yn edrych fymryn bach fel awyren Concorde! Dyna pa mor lwcus oedd Guto, arwr y stori hon. Mae teulu Guto hefyd yn dipyn o gymeriadau, yn enwedig ei nain (sy’n gwisgo siorts ac yn yfed gwin i frecwast!) a’i ewythr Tomaz sy’n dod o Lydaw. Mae bywyd yn braf…ond mae yna un peth sy’n poeni Guto yn fawr. Mae bwli o’r enw Gafyn yn benderfynol o sbwylio ei wyliau haf.

Mae hwn yn llyfr hawdd i'w ddarllen ac mae’r disgrifiadau ynddo yn fyw iawn. Darllenwch o i ddarganfod sut mae Guto yn cael gwared o fwlio Gafyn unwaith ac am byth –gyda ychydig bach o help gan ei ffrindiau, a sut mae’n darganfod cyfrinach rysáit hufen iâ ei nain o’r diwedd!

 


Awdur: Rhian Pierce Jones
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer (Cyfres Corryn)
ISBN: 1859028489
Pris: £3.95