Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Ydych chi erioed wedi aros mewn carafan yn yr Eisteddfod Genedlaethol?  Wel, dyna lle mae Endaf ap Emlyn yn aros pan mae o’n cyfarfod Blodwen Gonzalez Jones.  Mae hi wedi dod yr holl ffordd o Batagonia i chwilio am y Cymro perffaith ..... ond nid Endaf ydi o.

Mae’r ddau yn dechrau chwilio ar faes yr Eisteddfod am Gymro perffaith.  Dyn y papur newydd?  Na. Dynion tynnu rhaff?  Na.  Aelod o’r côr meibion?  Na. Mae nhw’n dod at aelodau’r Orsedd yn gorymdeithio - mae Blodwen yn meddwl eu bod yn mynd i barti wisg ffansi mewn pabell syrcas!  Dychmygwch beth sy’n digwydd pan mae Blodwen yn dwyn torch aur yr archdderwydd (mae ‘na lun o Geidwad y Cledd blin iawn!).  Tybed pwy felly ydi’r Cymro perffaith?  Rhaid i chi ddarllen y llyfr i gael gwybod.

Mae’r stori yn ddoniol ac mae ‘na luniau lliwgar ar bob tudalen.  Mae llawer o jôcs yn y lluniau hefyd.   Beth am fynd i’r llyfrgell i fenthyg y llyfr newydd yma?

 

Awdur: Meinir Pierce Jones
Arlunydd: Elwyn Ioan
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer
ISBN: 185902713X

Pris £4.95