Llyfr y Mis |
Nid yw Llew Lletchwith, Siryf pentre Gwlff Garw, wedi carcharu
person ers ugain mlynedd oherwydd ei fod yn flêr a thrwsgl. Y person olaf iddo ei
garcharu oedd Gwthgan Jenkins, a hynny am grogi defaid. Mae Gwthgan wedi dweud ei
fod am ladd pawb yn y pentref unwaith y maen rhydd.Pan ddaw diwrnod rhyddhau Gwthgan o garchar San Antonio maer pentrefwyr yn ffoi gan adael Llew Lletchwith i wynebur dihiryn. Ond beth sydd yn digwydd i Llew Lletchwith a Gwthgan Jenkins unwaith maer ddau wyneb yn wyneb? Fydd Llew Lletchwith yn llwyddiannus y tro hwn? Darllenwch y llyfr doniol hwn i gael gwybod beth sydd yn digwydd i Llew Lletchwith. Mae yna hefyd luniau doniol ar bob tudalen.
|
Awdur: Gwyn Morgan Darluniau: Dai Owen Cyhoeddwyr: Dref Wen ISBN: 1855964244 |