Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Fe fuasech chi'n disgwyl i blant Blwyddyn 6, Ysgol Glanhyfryd, fwynhau cymryd rhan yn eu sioe Nadolig. Ond, roedd yna lawer o fwmian a chryn anfodlonrwydd wrth iddynt wrando ar gyfarwyddiadau Miss P (am Pigog!) a’i chynlluniau ar gyfer eleni.
               
Doedd Nia, Ceri, Sam a Guto ddim yn sïwr sut i gychwyn ar eu tasg. Roedden nhw i fod i adeiladu dyn eira ar gyfer diweddglo’r cyngerdd. "Un smalio, wrth gwrs", pwysleisiodd Miss P (yn ei ffordd annymunol arferol). Fe herciodd y trefniadau yn eu blaenau’n helbulus ac fe ddaeth noson y sioe er gwaethaf popeth!

Fe lwyddodd y plant i greu dyn eira allan o wifren ffens ieir a’i stwffio gyda hen lyfrau a phapurau newydd o bob iaith. Gwnaed wyneb iddo a’i wisgo mewn hen ddillad ac fe gafwyd pleidlais i ddewis enw iddo. Fe benderfynwyd ar "Bolwyn."

Ar ôl y cyngerdd, prif destun siarad rhieni'r plant oedd y diweddglo. Hwn oedd y gorau a fu erioed yn hanes yr ysgol! A pwy feddyliech chi oedd yn gyfrifol am hynny?
               
Cofiwch ddarllen y llyfr i glywed am yr holl helyntion ac hefyd am y stori sy'n dilyn, "Bolwyn a'r dyn eira cas".

                                         

Awdur: Gwyneth Glyn
Lluniau: Carys Owen
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
ISBN: 0863816568
Pris: £2.95