Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Efallai y bydd y stori hon yn apelio at ferched yn bennaf gan mai am griw o ferched, Ali, Sam, Ffion, Sara a Meleri mae’n sôn. Mae’r merched yn perthyn i’r Clwb Cysgu Cwl.  Beth yw’r Clwb?  Wel, cyfle i gael 'sleepovers' yn nhai ei gilydd sir iawn!  Y tro hwn mae’r merched yn penderfynu cael cyfarfod o’r Clwb ar ddydd Gwener 13, ac mae pethau’n mynd yn rhyfeddol o dda i ddechrau.   Mae’r merched yn penderfynu cael noson arswyd, ac yn paratoi gwledd o bethau ych-a-fi i’w bwyta.  Ond yna daw un anlwc ar ôl y llall. Ar ben popeth mae pawb ofn y lleidr sydd wedi bod yn torri i mewn i dai pobl yn yr ardal yn ddiweddar.   Dyma lyfr doniol iawn, a dwi’n sir y byddwch chi, ferched yn bennaf, yn hoffi mwynhau dod i nabod Ali, Sam, Ffion, Sara a Meleri.  Os wnaethoch chi fwynhau hon, cofiwch fod digon o lyfrau eraill yn y gyfres ar gael yn Gymraeg!


Teitl: Y Clwb Cysgu Cwl ar Nos Wener 13
Awdur: Louis Catt (addasiad Siân Lewis)
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer
ISBN: 1859029108
Pris: £3.50