Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Wyt ti’n hoffi darllen am frenhinoedd, rhyfeloedd a chewri cas?  Os wyt ti, fe fyddi di wrth dy fodd gyda’r llyfr yma am hanes Rhita Gawr, y brenin o Gymru sy’n lladd degau o frenhinoedd eraill mewn brwydrau gwaedlyd a ffyrnig.  Mae o’n casglu barf pob brenin mae o’n ei ladd er mwyn creu mantell neu glogyn iddo fo’i hun. Ond mae’n o’n mynd yn rhy bell pan mae o’n gofyn am farf y Brenin Arthur.   Os wyt ti erioed wedi holi pam fod yr Wyddfa mor fawr a sut y cafodd mynydd uchaf Cymru ei enw, gwell i ti ddarllen y llyfr hwn!

                                      

Awdur: Esyllt Nest Roberts
Darluniau: Carys Owen
Cyfres: Straeon Cymru 10
Gwasg Carreg Gwalch
Pris: £3.50
ISBN 086381624X