Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Dosbarth o blant direidus ac am gadw reiot yw Blwyddyn Tri Ysgol Fron Heulog.  Maent yn dda iawn am greu stwr, am daflu, cicio, brathu, ysrgifennu ar waliau ac anwybyddu eu hathrawes.  Ar ôl cael llond bol ohonynt mae eu hathrawes, Miss Mêl, yn cerdded allan o’r dosbarth a’u gadael. Yn gwylio’r cwbl mae Miss Bwgan.  Does neb yn ei gweld hi’n gwylio, ond ar ôl i Miss Mel adael mae hi’n ymddangos gan ddychryn Blwyddyn Tri.  Gall Miss Bwgan newid ymddygiad Blwyddyn Tri a chael Miss Mêl yn ôl? Bydd rhaid i chi ddarllen y llyfr i weld. Stori gyffroes a doniol yw hon a darluniau digrif ar bob tudalen.

 

                                      

 

Awdur:Tony Bradman
Llyfrau Lloerig
Cyhoeddwyr: Gomer
ISBN: 185902921
£3.50