Ydych chi'n
meddwl mynd i wersylla rwan bod y tywydd braf wedi cyraedd? Efallai y byddwch yn
mynd efo grwp o ffrindiau i Langrannog, Cwm Cadno, Glan-llyn? Wel, darllenwch y
llyfr hwn!
Mae'n bosibl eich bod eisoes yn gyfarwydd a'r Clwb Cysgu Cwl - criw o bump merch sy'n cael
anturiaethau efo'u gilydd. Y tro hwn maen nhw'n mynd efo'r Urdd i Gwm Cadno i aros
mewn peblyll. Mae llawer o bethau i'w gwneud - saethyddiaeth, abseilio, canwio, canu
rownd y tân gyda'r nos - ond y peth mwyaf ydy trio ennill y Cwpan Antur yn ergbyn yr
M&Ms.
Rhwng Ffi sy'n rhy ofnus i gymryd rhan, Sam sy'n trio gwneud i bawb ymarfer pob eiliad,
a'r M&Ms a'r Telitybis sy'n trio bod yn gas efo'i gilydd, tybed a fydd y Clwb Cysgu
Cwl yn ennill y Cwpan?
|