Llyfr y Mis |
Dyma gasgliad
arall o farddoniaeth yng nghyfres boblogaidd iawn Llyfrau Lloerig, yw hon. Y tro
hwn, casgliad gwael iawn sydd yma, oherwydd barddoniaeth am fod yn sāl ydyw.
Efallai y gwnaiff y cerddi hyn chin sāl, achos tydi lot ohonyn nhw ddim yn neis o
gwbwl
er enghraifft, chwiliwch am y cerddi Y rhech goch, Llau Pennau a
Llythyr at Drwyn? Ych-a-fi! Er, mi wnes i chwerthin lot wrth ddarllen y llyfr
hwn hefyd achos mae lot or cerddi hyn yn rhai doniol dros ben, er enghraifft, beth
am y limrig hwn gan Myrddin ap Dafydd:-Aeth merch i weld llew yn Nhre-gwyr Yng nghanol y cerddi ysgafn, mae rhai mwy difrifol a da iawn hefyd. Chwiliwch am y gerdd Cān Gwella, eto gan Myrddin ap Dafydd, reit ar ddiwedd y llyfr bydd pawb gobeithio, yn gyfarwydd ar teimladau sydd yn y gerdd fach hon!!
|
| Awdur: Myrddin ap
Dafydd (gol) Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 0863816789 Pris: £3.95 |