Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Sut fyddet ti’n teimlo wrth gerdded dros fynydd unig yng nghanol y nos ar dy ben dy hun?  Dyna beth fu raid i Alun ei wneud pan oedd o’n 10 oed.

Roedd Alun a’i dad yn gyrru defaid i’r farchnad, pan gafodd ei dad ddamwain a thorri ei goes.   Yn waeth fyth, dyma’r lladron defaid yn dwyn eu defaid a Top y ci.  Gan adael ei dad yng ngofal gwraig fferm, i ffwrdd ag Alun i ddod o hyd i’w berthnasau yn y dref ac adrodd yr helynt wrthynt.

Ond, ar y ffordd, a hithau’n ganol nos olau leuad, mae o’n dod o hyd i’r defaid oedd wedi eu dwyn. Beth fedr o wneud rwan?  Mynd ymlaen i chwilio am help, neu dwyn y defaid yn eu hôl?   Beth os daw’r lladron i wybod?

Os wyt ti’n hoffi stori antur gyffrous, gyda dirihod peryglus a bachgen a chi dewr, dyma’r llyfr i ti. A phwy well na T.Llew Jones ei hun i adrodd y stori?

                                                          

Awdur: Alison Morgan
Addasiad: T. Llew Jones

Cyhoeddwyr: Gwasg Gomer
Pris £4.50
ISBN: 1859029744