Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae Megan yn aros efo Tad-cu, sy’n byw ar lan y môr ger Caergybi, pan mae ei rhieni yn mynd draw i'r Iwerddon, i briodas, am ychydig o ddyddiau .  Ers i’w ffrind ddod o hyd i neges mewn potel ar y traeth  mae Megan yn chwilio am botel ei hun bob tro mae’n mynd i dy Tad-cu.  Y tro yma mae Megan yn darganfod potel ar y traeth gyda neges gyffrous iawn ynddi.  Fodd bynnag, mae hi’n amau  mai Tad-cu sy’n gyfrifol am y botel. Er hynny mae’n dilyn y cliwiau yn y botel. Ydy hi’n darganfod trysor tybed? A oedd Tad-cu yn gyfrifol am y botel?

Darllen y llyfr i gael yr atebion!

                                                          


Awdur: Sian Lewis
Cyfres Llyffantod
Gwasg Gomer £4.95
ISBN 1859029094