Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mi fyddaf wrth fy modd gyda chwedlau a straeon am Dylwyth Teg gan eu bod yn llawn helyntion rhyfedd ac fe all unrhyw beth ddigwydd!  Llyfryn bach o'r gyfres Straeon Cymru yw Elidir a'r Tylwyth Teg.  Mae lluniau lliw llawn gan Carys Owen ar bob tudalen.  Hanes Elidir a gawn yma, hogyn bach digon drygionus sy'n dianc o'i wersi un diwrnod. Tra'n cuddio, mae'n cyfarfod dau Dylwyth Teg sy'n ei arwain i wlad y Tylwyth Teg.  Un dydd daw  hiraeth arno am ei gartref.  Mae Brenin y Tylwyth Teg yn cytuno y caiff fynd adref weithiau i weld ei fam.  Un diwrnod, mae'n o'n dwyn rhywbeth oddi wrth y Tylwyth Teg i fynd adref efo fo.  Darllenwch y stori i weld a yw'r Tylwyth Teg yn maddau i Elidir a'i adael yn ôl i wlad y Tylwyth Teg.

Stori gan Esyllt Nest Roberts
Gwasg Carreg Gwalch, £3.50
    

Dyma fwy o lyfrau gwerth chweil yng nghyfres Straeon Cymru:

Gelert

Olwen

Clustiau March

Cantre'r Gwaelod

Merch y Llyn

Dinas Emrys

Dwynwen