Nôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae hon yn stori ddoniol ac arbennig o dda am gi defaid arbennig o'r enw Pando.  Mae Pando yn dipyn o ges, ac yn meddwl ei fod o'n rhan bwysig o'r teulu.  A dweud y gwir, mae o'n ymddwyn yn fwy fel plentyn nac fel ci defaid!  Ond, mae o'n gi defaid rhagorol, ac yn fedrus iawn wrth hel defaid.  Mae ei berchennog, Mos, yn cael cynnig mil o bunnoedd am Pando – digon i brynu gwyliau braf neu jacuzzi.  Ond be sy bwysica, arian mawr ynteu cymeriad o gi defaid?  Be fyddech chi'n ei wneud – a fyddech chi yn gwerthu Pando neu a fyddai gennych hiraeth ar ôl ei driciau dwl?  Darllenwch Un o Fil  i weld be mae Mos yn ei benderfynu!

 

                                                          

                               
Awdur:  Meinir Pierce
Cyhoeddwr:
Gwasg Gomer
ISBN: 1859029671
Pris: £3.50