Nôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae’n debyg fod rhai ohonoch chi wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod Mei Mac tra roedd o’n Fardd Plant Cymru 2001.  Mae’r llyfr yma’n llawn o gerddi gwych gan Mei a llawer o blant o ysgolion ledled Cymru. Mae ‘na rai cerddi doniol iawn fel Dwi Ofn! gan Owen Rickards, cerddi annwyl a chynnes fel Fy Nhedi Bêr gan Catrin Gwyn Jones, a cherddi am leoedd arbennig yng Nghymru fel Llangrannog a Dolbadarn.   Dwi’n hoffi Rwy’n Gwybod gan Mei Mac yn arbennig - cerdd sy’n tynnu sylw at rai o’n dywediadau doniol ni.  Mae’r llyfr hefyd yn llawn o luniau arbennig.   Felly ‘...plymiwch rhwng y cloriau i ddarllen am ffrindiau, nosweithiau o ddathlu, y byd mawr, Cymru fach a llawer mwy!’

 

                                                          

                                 
Awdur: Meirion MacIntyre Huws
Cyhoeddwr: Hughes
ISBN: 0852843143

Pris £3.99