Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae Twinc yn gawr mawr, y gwr mwyaf ar yr ynys, yn dal a main ac yn hoff iawn o’r lliw pinc. Fe, hefyd yw pennaeth yr Ynys Binc, ynys a arferai fod yn lliwgar ond fod Twinc wedi ei throi yn binc oherwydd ei fod wedi gwirioni gyda’r lliw.

Yn anffodus nid yw holl drigolion yr Ynys Binc mor fodlon gyda’r lliw pinc. Maent a dweud y gwir yn llawer hapusach gyda nifer o liwiau. Dau o’r rhain yw Mafon a Mefus, gweision yng nghastell Twinc, sydd wedi cael digon ar y lliw pinc, ac yn ceisio ffordd o’i wared.

Sut maent yn gallu gwneud hyn heb wneud Twinc yn flin? Darganfyddwch sut, ac os bydd bywyd yn aros yn binc i drigolion yr Ynys Binc yn y llyfr lliwgar a llawn hwyl hwn. Byddwch yn swir oi fwynhau.                                                        

                                
Awdur: Fiona Wynn Hughes
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Cyfres Llyfrau Llawen
ISBN:
Pris £3.95