Llyfr y Mis |
Rydych
chi wedi clywed am Harri'r 8fed a'i holl wragedd a Syr Harri Morgan
y morleidr, ond beth am Harri Hyll yr Ail o Gaerdydd?
Wel, os ydych wedi poeni am fwlis yn yr ysgol, tydyn nhw'n ddim byd i gymharu â Harri Hyll! Ar ôl iddo orchymyn ei bobl i fwyta prygenwair, paentio eu hunain yn goch ac yfed hylif i droi'n flewog fel bwni, maen nhw wedi cael hen ddigon! Ond doedd ganddyn nhw dim modd i ryddhau eu hunain o reolau erchyll Hari Hyll. Ond dydw i ddim wedi sôn eto am Bleddyn y Balwn Hud, ffrind Maldwyn Mwyn, dewin Caerdydd a fuasai yn medru rhoi gobaith i bobl y ddinas. Mi gewch chi weld!
|
|
Awdur: Gwyn Morgan Darluniau Dai Owen Dref Wen £3.50 ISBN 1 85596 222 5 |