Nôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae yna gystadleuaeth ym mhentref Pant-y-Pwca. Cystadleuaeth y ddoli orau mewn gwisg Gymreig’.  Beth yw’r wobr medde chi?  Dim llai na CHAN PUNT!  Ie, gwobr gwerth chweil!

Dyma stori ddoniol iawn sy’n dilyn hynt a chryn helynt rhai o drigolion Pant-y-Pwca yn eu hymdrech i baratoi’r ddoli orau ar gyfer y gystadleuaeth. Pwy fydd yr enillydd tybed?  Ai Misus Prosser-Pritchard grand (sy’n sicr mai Myfanwy, ei hannwyl ddoli, fydd yn ennill) unwaith y bydd wedi prynu gwisg Gymreig iddi yn y siop deganau?  Ynteu Twm a Mati Tat sydd wedi bod wrthi’n brysur yn creu gwisg wreiddiol iawn i hen dedi bêr blêr?   Neu, a fydd lladron yn llwyddo i gipio’r wobr o dan eu trwynau oll?  Yn sicr, bydd yma ddigon o waith i gadw Plismon Jac a chriw ffilmio Neli Teli yn brysur iawn iawn!

                

                                                           
Awdur: Martin Morgan
Gwasg y Dref Wen
£3.95
ISBN: 1855965070