Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Roedd pawb yn gwneud hwyl am ben Nerys.  Roedd ei thrwyn yn enfawr.  Yr un mwyaf cas oedd Cadi Crinc drws nesaf.  Roedd ganddi hi drwyn pwt a del.  Ond, roedd gan Nerys gyfrinach.  Gallai disian fel taran. Yn wir, roedd hi wedi dyfeisio ffordd newydd o deithio – Tisian-tyrbo!

Un diwrnod daeth newyddion drwg fod Mamgu Glynwen, y famgu gyntaf i fynd i’r gofod, yn methu dod yn ôl i’r Ddaear.  Dim ond un person fedr ei hachub hi – ond tybed fydd Nerys yn gallu tisian yn ddigon cryf i fynd i’r gofod?  Beth fydd ymateb Cadi Crinc?

Gwell i ti ddarllen y stori ddoniol hon i gael gwybod. Mae o’n llawn o luniau lliwgar hefyd.  Ond cymer ofal wrth disian tro nesaf, rhag ofn!

        

Awdur: Peter Jones (addasiad Sian Lewis)
Arlunydd: Rob Davies
Gwasg Gomer £4.75
ISBN 185902663X