Dyma
gyfres newydd i’r holl gefnogwyr pêl-droed, a’r rhai sydd ddim yn
hoffi pêl-droed. Mae tim pêl-droed Y Saint yn grwp o fechgyn a
merched sy’n aelodau o Glwb Ieuenctid Eglwys Blwyf Llan-Saint. Bob dydd
Sadwrn maent yn chwarae gêmau yn erbyn timau lleol gyda’r rhieni brwd
yn eu cefnogi o’r llinell. Yn anffodus mae rhai rhieni yn cefnogi a
beirniadu yn lle gadael i’w plant chwarae. Dyma yw problem tad
Colin y Blaenwr.
Stori am gêm bêl-droed wahanol iawn sydd yma wrth i Colin geisio cael ei
dad i roi’r gorau i feirniadu. Mae’r Eglwys yn dathlu ei
phen-blwydd yn 100 mlwydd oed ac er mwyn dathlu mae gêm yn cael ei
threfnu rhwng y plant a’i rhieni. Darllenwch y llyfr i weld pwy
sy’n ennill, y plant neu’r rhieni, Colin neu ei dad.
|