Rydych
chi'n gyfarwydd â Sglod, tydych , - ci'r siôp chips 'na sy'n byw ar lan
y môr? Wel, ei hoff gerddi am y môr sydd yn y llyfr hwn.
Bydd darllen y llyfr yn siwr o'ch atgoffa am lan y môr, a chodi awydd
arnoch i gychwyn eich gwyliau hâf yn syth! Cerddi i wneud i chi
chwerthin a rhyfeddu, i wneud i chi gofio am be rydych chi'n ei wneud ar
lan y môr, be rydych chi'n ei ddarganfod, yn ei weld ac yn ei fwyta. Ac,
ella, wrth edrych yn ofalus y medrwch chi weithio allan sut y gwnaeth
yr alunydd ei luniau arbennig.
|