Mae
Ms Swyn yn ei hôl, ac mae’r
hanesion diweddaraf amdani yn cynnwys cymaint o anrhefn ac erioed! Y tro
hwn, mae Ms Swyn yn cael ei hun yn gwarchod Caryl a’i chwaer fach
Stwnsha am y nos. Pam yr enw Stwnsha? Am ei bod yn hoff
o stwnsho pobl wrth gwrs! Er mwyn gwneud y noson yn un ddifyr, mae
Ms Swyn yn gwneud Stwnsha,
Caryl a hi ei hunan yn fach, ac yn mynd i mewn i’r set deledu. Mae yna
sawl antur yn dilyn ac mae Caryl yn cael disgleirio fel actores ar y diwedd!
Os ydych chi yn un o ffans Ms Swyn, darllenwch y stori hon. Mae’n
wirion a llawn jôcs – mi wnewch fwynhau pob munud.
|