Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Y pethau od hynny am ysgol sydd yn amlwg iawn yn y llyfr barddoniaeth hwn.  Hwyl a miri bywyd ysgol sydd yn byrlymu drwy’r casgliad o dros ddeugain o gerddi.  Mae’n cynnwys gwaith nifer o feirdd gan gynnwys y golygydd ei hun - Myrddin ap Dafydd.

Mae’r darluniau gan Sion Morris ar bob tudalen hefyd yn fywiog iawn - mae’n werth cael y llyfr i weld ei luniau o athrawon!

Yn ei gyflwyniad i’r llyfr mae Myrddin ap Dafydd yn dweud:

"Mae mewn ysgol llawer o bethau nad ydym yn eu deall.  Dim ots faint o addysg gawn ni na faint ydi’n oedran ni, mae rhai pethau ynglyn ag ysgolion... y drefn, yr athrawon, plant mawr, plant bach a rhai pynciau fydd yn ein taro yn od ar hyd ein hoes"

Os ydych am ddarllen am bethau od felly gwyliwch allan am y llyfr hwn!

Golygydd: Myrddin ap Dafydd.   Lluniau Sion Morris

Gwasg Carreg Gwalch, £3.75

    
Dyma’r seithfed gyfrol o farddoniaeth yn y gyfres boblogaidd Llyfrau Lloerig .

A ydych wedi eu darllen i gyd?

Briwsion yn y clustiau

Chwarae Plant

Y Llew go lew

Nadolig, Nadolig

Mul bach ar gefn ei geffyl

Ych! Mae'n nhw’n neis