Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Os oeddech chi’n credu fod barddoniaeth yn ddiflas, wel, meddyliwch eto a darllenwch y gyfrol hon o farddoniaeth ddoniol gan Gwyn Morgan.

Mae yma gerddi fydd yn  apelio at bawb a bydd ambell i sefyllfa a ddisgrifir yn siwr o fod yn gyfarwydd.  Mae cerddi am frawd bach sy’n bwyta popeth, am deimladau llysiau wrth i mam eu torri, tymhorau, dyn sy’n byw mewn afal a nifer o chwaraeon.

Defnyddir nifer o arddulliau barddoniaeth yma - cwpledi, cerddi rhydd a phenillion gydag odl.  Ceir blas mewn sawl cerdd o gerddi cyfarwydd, ee mae tinc “Mae gen i ebol bychan” i’r gerdd “Gyrru”.

Darluniwyd pob cerdd gyda lluniau du a gwyn gan Dai Owen.  Maent yn ehangu mwynhad a dealltwriaeth y cerddi ac, fel yn y “Babi”, mae’r lluniau yn ychwanegu at y gerdd.


        

                    
Awdur:  Gwyn Morgan
Gwasg:  Dref Wen
1855965127
£3.95