Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Nofel ysgafn iawn yw hon o gyfres Fflach Doniol. 
           
Mae'n debyg fod gennych chi ferched cinio neis iawn yn eich ysgol chi, ond cymrwch drueni dros blant Ysgol Gymraeg Eden.  Mae Mrs. Ceredig - fel mae ei henw yn swnio - yn ddynes hynod o glên, ond hen gnawes flin a sbeitlyd yw Mrs. Sharp.  Adroddir yr hanes i gyd gan Tom, sy'n naw oed, a chawn wybod popeth am yr hyn arweiniodd at y ffeit fwyaf erioed yn hanes yr ysgol -  rhwng y ddwy ddynes ginio!
              
Mae'r stori wedi ei sgwennu yn nhafodiaith y de,  ac mae Tom yn adrodd yr hanes mewn ffordd hwyliog iawn.  Os ydych chi'n hoffi llyfrau am fywyd ysgol, yna triwch hwn!


                           
    

           
Awdur:  Nicholas Daniels
Gwasg: Dref Wen
£3.75
ISBN:  1855965321