Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Nofel ysgafn iawn o gyfres Fflach Doniol.
        
Doedd tad-cu ddim yn teimlo’n dda.  Roedd o’n dal yn ei wely am hanner dydd, yn rhy wan i godi.  Doedd tad-cu ddim wedi bwyta ers wythnosau, ac erbyn hyn roedd o’n denau iawn.  Beth am ddilyn taith anturus tad-cu wrth iddo fynd i feddygfa Doctor Cwac ac yfed y botel gyfan o’r moddion coch ych-a-fi?
          
Dyma stori ddoniol, llawn antur wedi ei sgwennu yn nhafodiaith y de, gyda lluniau digrif ar bob tudalen.  Os ydych wedi darllen hanesion tad-cu o’r blaen, mae’n rhaid i chi ddarllen y llyfr hwn!  Neu os dyma’r tro cyntaf i chi gyfarfod a Tad-cu, gallaf eich sicrhau y byddwch eisiau darllen mwy o’i hanes doniol.


                           
    

           
Awdur: Martin Morgan
Cyfres Fflach Ddoniol
Gwasg: 
Dref Wen
Rhif ISBN: 
1855965259
£3.95