Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Os am lyfr hamddenol, doniol a sydyn i’w ddarllen -  dyma’r llyfr i chi.  Stori am un bore yn mywyd teulu Mr Gwyddig (yn cynnwys y gath).  Cyflwynir ni yn grynno i’r teulu, fesul un, ar ddechrau’r llyfr.  Ymddengys yn fore cyffredin, fel mewn unrhyw gartref arall, ar yr olwg gyntaf. Ond efallai nad yw hyn yn wir wrth i Mr Gwyddig wisgo ei holl ddillad ac i’r ffôn ganu.  Ar ôl i pawb adael am y gwaith a'r  ysgol mae digwyddiadau’r bore yn datblygu wrth i Mrs Gwyddig gasglu lleidr o’r banc ac i’r plant fynd i nofio.  Adroddir y stori mewn arddull ddoniol a chryno wedi ei atgyfnerthu gan luniau llawn hiwmor Katherine McEwen.  Codwch y llyfr i ddarganfod beth ddigwyddodd y bore hwnnw a pham fod Mr Gwyddig yn gwisgo ei holl ddillad ar unwaith.

                              

Awdur:  Allan Ahlberg
Addasiad:  Dylan Williams
ISBN:  1902416732
Pris:  £5.95