Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Nofel yw hon am Beca, naw oed, sy’n dwli ar geffylau. Mae ei breuddwydion i gyd yn dod yn wir pan mae’n cael merlen fach Shetland yn anrheg penblwydd. Mae Siani’r ferlen yn un fach ddrwg ac mae’n achosi lot o drwbl a helynt. Am ei bod yn annwyl iawn mae Siani a Beca’n dod yn ffrindiau mawr. Cyn hir fe ddaw pawb arall hefyd i sylwi fod Siani’n ferlen fach ddewr a chlyfar.
            
Mae’n stori ddiddorol gyda lot o ddigwyddiadau ynddi. Mae nifer o luniau du a gwyn sy’n cyd-fynd yn dda â’r stori.  Mae’r nofel yn gorffen ar y noson cyn y sioe fawr, lle mae Beca a Siani’n cystadlu am y tro cyntaf, ac felly, mae’n siwr y cawn ddarllen am fwy o helyntion Siani cyn bo hir.  Os ydych yn hoffi storiau am geffylau, dyma’r nofel i chi!

 

              
Awdur: 
Anwen Francis
Gwasg: Gomer
ISBN:  184323545
Pris:  £4.99