Llyfr y Mis |
Dyma i chi stori ryfedd
ac eithaf dychrynllyd am y Tylwyth Teg, ac ie, Tylwyth Teg digon cas ydi'r rhain.
Mae'r stori yn cychwyn gydag efeilliaid yn cael eu geni i ddynes o'r enw Beti Tir Gwenith.
Ond yn sydyn, un noson, mae un ohonynt yn cael ei gipio gan y Tylwyth Teg sy'n
gadael eu plentyn eu hunain yn ei le.A dyna i chi blentyn rhyfedd - tydi o ddim yn edrych cweit run fath a phlant eraill, ac wrth gwrs mae Beti a'i gwr eisiau eu mab bach eu hunain yn ôl eto. Ydyn nhw'n llwyddo i berswadio'r Tylwyth Teg i ffeirio'r plant? Dyma i chi stori gyffrous iawn gyda lluniau ffantastig gan Jac Jones. Mae'n werth cael gafael ar y llyfr er mwyn gweld y lluniau gwych. Fyddwch chi byth yn meddwl am y Tylwyth Teg fel pobl bach neis byth eto! Stori gan Meinir Pierce Jones.
Lluniau gan Jac Jones. |
|
Llyfrau eraill yng nghyfres Chwedlau o Gymru: Gwion a'r Wrach gan Tegwyn Jones Hefyd ar gael yn Saesneg |