Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae Arthur yn cael ei fwlio yn yr ysgol ac yn byw mewn ofn. Un diwrnod, tra ar drip gyda gweddill y dosbarth, mae Arthur yn cael ei dywys yn ôl i'r gorffennol - i oes Myrddin y dewin a'r brenin Arthur.  Yno mae'n cael cyfarfod a'r ddraig goch a'r tylwyth teg ac yn llwyddo i ddatrys problem i Ysbaddaden y cawr.

Wrth helpu eraill mae Arthur hefyd yn cael cymorth i ddatrys ei broblemau ei hun ac i gael gwared a Morgan y bwli mawr.

Dyma stori gyda nifer o chwedlau o Gymru yn gefndir iddi ac yn ogystal mae yna luniau lliwgar sy'n werth eu gweld.
 
                                     

      
Awdur:  Graham Howells
Addasiad:  Elin Meek
Gwasg:  Gomer
£4.99
ISBN:  1 84323 2359