Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Llyfr stori a llun yw hwn, nid nofel, ond mae'n werth ei ddarllen.  Mae'r stori yn sôn am ddyfodol y ddaear, sydd wedi ei ddifetha gan lygredd a sbwriel a mwg annifyr yn cuddio popeth yn cynnwys yr haul.  Mae’r gwr cyfoethocaf yn y byd yn penderfynu ei fod am adeiladu twr at yr haul er mwyn i’w wyr weld yr haul a’r awyr las.  Mae'n stori am ba mor wirion yw pobl. Gallwch chi benderfynu a ydi hi'n stori drist neu stori hapus.  Mae'r lluniau'n werth eu gweld - yn llawn o fanylion a phethau newydd i'w gweld bob tro.

 

 

           
Awdur:  Colin Thompson
Gwasg:  Y Dref Wen
ISBN:  1855965356
Pris:  £5.75