Llyfr y Mis |
![]() Cath fach iawn iawn oedd Pwtyn sut felly y tyfodd i fod y gath drymaf yn y byd? Maer ateb yn y llyfr doniol hwn gyda llawer o ddarluniau o gathod o bob math! Hyd yn oed os nad wyt yn hoffi cathod, maen stori dda am deulu Mr a Mrs Cathwaladr a'u 'plant' - Cathi,Twmi, Fflwffen, Mew, Blew - ar lleiaf ohonynt Pwtyn ei hun. Roedd Pwtyn mor fach roedd rhaid iw fam ei fwydo gyda photel fechan ddim mwy na maint dy fys bach di ai lapion gynnes mewn hances. Roedd mam Pwtyn yn meddwl y byd ohonno ac wrth iddo dyfu a tyfu a tyfu yr oedd hi'n siwr fod Pwtyn am fod yn enwog iawn rhyw ddiwrnod. I gael gwybod os oedd Mrs Cathwaladr yn iawn bydd rhaid i ti ddarllen y llyfr hwn! Hefyd yn y llyfr, mae jôcs am gathod a ffeithiau anhygoel fel hanes y gath ddaliodd 28,000 o lygod ! Addasiad Elen Rhys o stori Rose Impey. Darluniau gan Shoo Rayner.Gwasg Gwynedd, £3.25 |
|
Straeon doniol eraill am anifeiliaid yng nghyfres Llyfrau Lloerig: Penrir Ci Poeth Ffortiwn i Pom Pom Penblwydd Hapus Blodwen |