Llyfr y Mis |
Anghofia am Gwpan Rygbir Byd -
maer hanes diweddaraf am Zac yn fwy diddorol o lawer! Daeth Zac Evans yn arwr
cenedlaethol pan enillodd tref fechan Brynchwim gêm rygbi yn erbyn dinas fawr
Casgarw. Maer stori hon yn gweld Zac, blaenasgellwr tîm Brynchwim, yn cael ei
ddewis ir tîm cenedlaethol. Mae teulu a ffrindiau Zac yn hapus iawn ond nid
pawb sydd yn fodlon ei fod am dderbyn ei gap cyntaf am chwarae yn erbyn Snobolia.Mae y rhai sydd yn barod i wneud unrhyw beth i rwystro Zac rhag cymryd ei le ar faes cenedlaethol Canllawia. Mae tîm rygbi Casgarw, ac yn arbennig Pydew Jenkins a Cynrhon Richards, yn bederfynnol o weld nad yw Zac yn chware yn y gêm fawr. Os wyt eisiau gwybod os ydynt yn llwyddo rhaid i ti ddarllen y llyfr newydd hwn! Stori ddoniol yw hon gyda darluniau
digri iawn gan Dai Owen. Mae nifer o bethau rhyfedd yn digwydd yn y lluniau sydd yn
llawn cyffro y stori ei hun - cofiwch edrych allan am y ddau plismon twp! |
Os wyt eisiau darllen mwy am hanes Zac - rhaid i ti edrych allan am Zac yn y Pac sydd hefyd yn un o gyfres Llyfrau Lloerig.
|