Llyfr y Mis |
Mae gan y draenogod broblem. Maen nhw wrth
eu boddau yn mynd i hela yn y parc lleol, ond maen beryglus iawn iw gyrraedd
mae nifer ohonynt yn cael eu lladd ar y lôn.Ar ôl i Anti Beti gael ei gwasgun fflat fel crempog ar y stryd wrth y siop bapur newydd, mae Dad yn rhoi pregeth hir iw pedwar plentyn ar broblemau diogelwch y ffyrdd i ddraenogod. Yr un lleiaf ydy Gruffydd Maredudd Llywarch (mae ganddo dair chwaer, Lili, Lafant a Lelog). Fo syn benderfynol o ffeindio allan sut i groesir stryd yn ddiogel. Mae on mynd i arsylwi sut mae pobl yn croesir ffordd. Dydyr gwaith ymchwil hwn ddim heb ei droeon anffodus. |
Os ydach chi eisiau gwybod mwy am hynny, ac os yw ei ymchwil yn llwyddiannus, ac o ble mae teitl y llyfr yn dod, wel, darllenwch y llyfr! Addasiad Emily Huws o stori Dick King-Smith Gwasg Gomer, £3.50 |