Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Stori yw hon am blant oedd yn byw ym mhentref Bethesda bron i gan mlynedd yn ôl.  Mae'r awdures, Brenda Wyn Jones yn adrodd y stori o safbwynt Guto, bachgen deuddeg oed a'i deulu tlawd sy'n cael eu dal ynghanol helbulon y Streic Fawr yn Chwarel y Penrhyn.  Mae dau frawd Guto a channoedd o ddynion eraill sy'n gweithio yn y chwarel yn mynd ar streic oherwydd y ffordd mae Lord Penrhyn, perchennog cyfoethog yn chwarel, yn trin ei weithwyr.

Nid yw bywyd yn hawdd i Guto.  Nid yn unig mae bwli mawr yn ei boeni yn yr ysgol, ond mae'n rhaid iddo wynebu sioc ofnadwy pan mae'n darganfod mai un o'r dynion sy'n torri'r streic ac yn dychwelyd i weithio yw tad ei ffrind gorau, Defi.  Nid yw plant y Streicwyr i fod yn ffrindiau â phlant y Bradwyr.

Mae hon yn andros o stori dda, a fydd yn apelio at blant ym mlwyddyn 5 a 6. Yr hyn sy'n gwneud y stori mor arbennig yw'r ffordd mae Brenda Wyn Jones yn disgrifio bywyd y cyfnod mor glir i ni.  Rydym yn cael blas go iawn ar sut oedd hi i fyw ac i fynd i'r ysgol ar ddechrau'r ganrif.  Ceir darnau o hen lyfrau log ysgolion y cylch trwy'r llyfr, sy'n gwneud i'r stori ddod yn fyw iawn.  Mae lluniau Jac Jones hefyd yn darlunio'r cyfnod yn dda.  Yn Bwli a Bradwr cawn hanes cyffrous y streic, a phendroni dros sawl problem hefyd.  Mae' n llyfr sy'n gwneud i ni feddwl sut y buasem ni yn ymateb i sawl sefyllfa yn y stori.  Fel y gwnaeth Guto ei ddarganfod, mae bywyd yn gallu bod yn anodd iawn.

Gwasg Gwynedd £3.99
     

Dyma fwy o lyfrau gwerth chweil yng Nghyfres Cled:

'Tisho Bet? gan Emily Huws

Nicyrs Pwy? gan Emily Huws

Os Mêts, Mêts gan Terrance Dicks/Brenda Wyn Jones

Tân Gwyllt gan Pat Neill/Dic Jones

Pen Cyrliog a Sbectol Sgwâr gan Gareth F. Williams

Magu Croen Rhag Poen gan Mair Wynn Hughes