Llyfr y Mis |
Roedd Arwyn Jones wedi breuddwydio ers blynyddoedd am gael chwarae i dîm pêl-droed yr ysgol. Y tro hwn roedd yn teimlo'n siwr y byddai yn yr ail dîm. Yn anffodus roedd y prifathro yn rhy brysur yn paratoi ar gyfer ymweliad yr arolygwyr ni fyddai ganddo amser i hyfforddi dau dîm. Pan mae tad Arwyn yn clywed am hyn maen penderfynu ffurfio a hyfforddi tîm newydd sbon BMG Unedig. Ond un peth yw cael hyfforddwr, peth arall yw cael digon o aelodau i chwarae yng nghynghrair y cylch. Ydi tad Arwyn yn llwyddo i gael digon o fechgyn i ymuno? Pam mae dewis yr enw BMG Unedig? Darllena y llyfr i gael gwybod. Maer llyfr hwn y cyntaf o gyfres newydd Cyfres Cefn Rhwyd maer ail deitl Yn y Baw ar Llaca ar gael . Beth am edrych allan am y ddau lyfr?
|
|||
| Elgan Phillip Davies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) |