Llyfr
y Mis |
Beth yw chwedl? Stori dda sydd wedi cael ei hail adrodd dro
ar ôl tro ac yn y casgliad lliwgar hwn mae dwsin o chwedlau or chwe gwlad
Celtaidd. Maent wedi eu hadrodd yn nhraddodiad y cyfarwydd gynt, sef y storiwyr oedd
yn teithio o gwmpas i ddiddanu ymhell cyn oes y radio, y teledu ar cyfrifiadur.Maer awdur yn arbenigwr ar chwedlau ac mae hyn yn amlwg yn y gyfrol wych hon gyda gwaith celf trawiadol yr arlunydd Margaret Jones. Maer gyfrol yn cynnwys dwy chwedl o bob gwlad ac maen anodd dewis pa stori ywr orau gan mai detholiad or goreuon sydd yma. Dyma ragflas o un stori o bob gwlad. Hen ffefryn yw Cwn Gwyddno sef stori Cantrer Gwaelod. Dyma hanes Seithenyn y gwyliwr yn syrthio i gysgu ym mhalas Garan Hir ar noson stormus - dim ond Gwyddno sydd yn dianc rhag y môr wrth ir tonnau foddi ei dir. Nid oes dim ar ôl iw atgoffa ond swn y clychau yn canu o dan y dwr.O'r Iwerddon y daw stori Dyffryn y Bleiddiaid gyda Cas Corach yn cael ei boeni gan ferched dewin sydd yn troi eu hunain yn fleiddiaid. Maer bleiddiaid yn bwyta ei ddefaid ac maer stori yn adrodd sut maen ceisio cael gwared ohonynt. Stori ddoniol ywr un o Lydaw am Y Mynach Mawr ar Mynach Bach sy'n adrodd am ddau fynach - un gyda meddwl bach ar llall gyda meddwl mawr ar gystadleuaeth rhyngddynt i weld pwy ywr gorau am ennill arian. Brwydr yn erbyn y Tylwyth Teg sydd yn y stori or Alban Tam Lin gyda merch y Brenin yn ceisio achub marchog rhag hud Brenhines y Tylwyth Teg. Ar faner Ynys Manaw mae llun tair coes ac mae stori Yr ysgub yn adrodd hanes y Dewin Manannan sydd yn troi ei hun yn dair coes i ffurfio olwyn. Maen rowlion chwim o un pen yr ynys ir llall i wneud yn siwr fod trigolion yr ynys yn talu eu rhent ond mae un ffermwr bach yn ceisio ei dwyllo. Twyll hefyd yw cefndir y stori o Gernyw Ysbryd Stithians sef hanes Jenny o fferm yr Hendy a Robin. Pan fu Jenny farw mae ei theulu eisiau ei harian ond nid oes golwg oi chyfoeth. Cyn i Robin cael gafael ar yr arian a fferm yr Hendy rhaid gwynebu ysbrydion mynwent y plwyf cyn datrys y dirgelwch. |
Mae mwy o Chwedlau wedi eu dethol gan Rhiannon Ifans ar gael yn y cyfrolau Chwedlaur Brenin Arthur a Hud y Mabinogi ac mae mwy o luniau ardderchog Margaret Jones yn y cyfrolau Chwedl Taliesin ac Y Mabinogi. Rhiannon Ifans |