Stiwdio Erch Dyma stori ryfedd a gwahanol
iawn yn y gyfres Gwaed Oer. Mae pethau od iawn wedi bod yn digwydd ers i gwmni teledu
Stiwdio Erch symud ir ardal. Y broblem ydi, does neb yn coelio Iwan nai
gyd-ddisgybl Lowri pan maen nhwn ceisio rhybuddio pobl bod Stiwdio Erch yn
trio cael pawb i fod yn gas gydai gilydd. A beth yn y byd sydd wedi digwydd i Andy
ai gi Samson? Roedd Lowri yn meddwl iddi weld ci tebyg iawn i Samson ar y teledu -
ar un o raglenni Stiwdio Erch, ond lle mae o rwan? Mae yna dipyn o waith darllen yn y
llyfr yma ond maer stori yn gyffrous iawn. Erbyn y diwedd, mi fyddwch chithau ofn
Stiwdio Erch ac yn methun lan a gwybod sut yn y byd y bydd Iwan a Lowri yn dianc
or stiwdio erchyll. Mae yna dro yng nghynffon y stori ond wnai ddim dweud
wrthych chi os mai Stiwdio Erch syn ennill yn y diwedd!
|