Llyfr
y Mis |
Ar ddechrau'r stori hon mae hin oer, maen wlyb a thymor pêl-droed Cynghrair Cylch Caerddewi ond yn bum wythnos oed. Dyma dymor cyntaf BMG Unedig yn y Gynghrair ac nid yw pethau yn mynd yn dda. Un peth yw chwarae, peth arall yw ennill. Mae BMG Unedig wedi chwarae pum gêm ac wedi colli pob un! O ganlyniad maent yn gorwedd ar waelod yr ail adran. Dim syndod felly bod ysbryd y tim yn isel a bod tuedd gan y tim i gweryla ymysg ei gilydd. Mae Robbie ac Angharad, ymosodwyr y tim, yn gwario mwy o amser yn ymosod ar ei gilydd na sgorio goliau yn erbyn timau eraill! A ydynt yn dysgu cyd-dynnu a chredu eu bod yn ddigon da i ennill rhaid cael copi or llyfr i ddarllen am yr hyn sydd yn digwydd ir tim arbennig hwn. Mae lluniau bywiog John Shackell yn ychwanegu at y cyffro yn y stori ac maer lluniau or digwyddiadau pwysig yn y gêmau yn rhai difyr iawn . Dymar ail mewn gyfres o storiau am dim pêl-droed BMG. Y llyfrau eraill yw Cic or Smotyn, Cyffror Cwpan, Tacl Hwyr a Ar Ddiwedd y Dydd.
|
| Awdur: Elgan Philip Davies Lluniau John Shackell Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion |