Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Mi ges i flas mawr ar y llyfr hwn. Mae’r stori yn dechrau fel stori ysbryd pan fo Edi a Moc yn clywed swn griddfan yn y fynwent un noson. Buan y mae’r stori yn troi yn stori dditectif pan fo hi’n dod yn amlwg bod rhywbeth rhyfedd iawn yn mynd ymlaen o amgylch mynwent pentref bach Pant-y-Ffin. Mae yna griw dieithr o bobl yn cael eu harwain gan ddynes o’r enw Siasmin yn defnyddio’r twnnel o dan y fynwent i gario pecynnau amheus i Ffrainc. Mae Edi yn benderfynol o ddod i wybod y gwir, ac yn rhyfedd ddigon, mae tair o ferched o’r pentref wedi bod yn Ffrainc yn ddiweddar…Credwch fi, bydd y llyfr yn eich cadw  i ddyfalu tan y diwedd un. Deg allan o ddeg i Len Evans am nofel dditectif gyda’r diwedd mwyaf cyffrous yr wyf wedi ei ddarllen ers tro!

 

 


Awdur: Len Evans
Cyhoeddwr: Dref Wen (Cyfres Cled)
ISBN: 1855964228
Pris: £3.75