Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Bydd hyd yn oed plant sy'n dweud nad ydynt yn hoffi barddoniaeth yn siwr o gael hyd i rhywbeth da i'w ddweud am y llyfr hwn. Mae ynddo rhywbeth at ddant pawb - barddoniaeth doniol i wneud i chi chwerthin a barddoniaeth mwy difrifol i wneud i chi feddwl. Un o'm hoff ddarnau yw Galw Enwau - tybed a yw pobol yn eich galw chi wrth enwau od? Neu beth am y llinellau dychrynllyd hyn...
 
Yng nghrombil Llyn Tegid mae creadur,
Un erchyll o'r dyddiau cyn cof,
Mae ei gynffon yn hirach na gwddf deg jiraff,
Ac mae anferth o gorff ganddo fo.

Rhwng cloriau'r llyfr gwych yma gallwch ddod o hyd i benillion am deuluoedd, brodyr a chwiorydd, anifeiliaid a bwystfilod, a diwrnodiau pwysig. Mae'r penillion i gyd yn hawdd iawn i'w darllen a dwi'n siwr y byddwch yn mynd yn ôl i ail-ddarllen eich ffefrynnau dro ar ôl tro. Mae yna hyd yn oed bennill am y Bandibo. Ydych chi wedi clywed am y creaduriaid hyn a'r Balibyffs? Na? Eisiau gwybod mwy? Beth am ddarllen y llyfr!

Lis Jones, Gwasg Carreg Gwalch, £3.75


Dyma fwy o lyfrau barddoniaeth gwerth chweil i blant:

Briwsion yn y Clustiau, gol. Myrddin ap Dafydd

Mul bach ar Gefn ei Geffyl, gol. Myrddin ap Dafydd

Y Llew Go Lew, gol. Myrddin ap Dafydd

Chwarae Plant, gol. Myrddin ap Dafydd

Ych! Maen nhw'n neis, gol. Myrddin ap Dafydd