Llyfr
y Mis |
Wyt ti'n gwybod o ble daeth y cracer Nadolig? Neu pa bryd mae'r 'dyddiau
duon bach'? Neu pwy oedd Baboushka? Na? Wel dyma'r llyfr i ti! Yn 'Golau ar y Goeden' mae Myrddin Ap Dafydd yn dilyn hanes y Nadolig o ddathliadau paganaidd cynnar y tymor tywyll i'n Nadolig lliwgar ni. Yma cawn yr hanes y tu ôl i'r rhannu anrhegion (Helo Siôn Corn!), y bwydydd arbennig (Mins peis!), addurno tai (Trimins yn y ty bach!), a (Goleuo Canhwyllau) - arferion oll sydd yn tarddu yn y gorffennol pell. Rhaid oedd i arweinwyr cynnar eglwys Crist ganiatáu i'r hen arferion aros, ond rhoddwyd ystyr newydd iddynt wrth gyfuno'r cyfan gyda hanes y geni mewn stabl ym Methlehem. Gydar amryw o gerddi Nadoligaidd fe gawn ein harwain drwy draddodiadaur Wyl a chawn gofio sut beth ydi'r Nadolig wedi bod dros y blynyddoedd, ac edrych ymlaen at ein Nadolig nesaf. Nadolig Llawen i chi gyd. |
Awdur: Myrddin ap Dafydd Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 0863816355 Pris: £6.00 |