Does dim rhaid i chi fod yn giamstar ar y We i
fwynhaur stori hon o gwbl. Mae Michael Coleman wedi 'sgwennu stori antur hynod
o gyffrous o gwmpas gyrru a derbyn negeseuon e-bost rhwng ffrindiau hen a newydd, pell ac
agos. Mae Rob (syn galw ei hun yn ZMASTER) yn darganfod ei hun mewn perygl
mawr yn ei gartref ei hun. Mae ganddo amser i yrru un e-bost yn unig a honno mewn
côd. Bydd rhaid iw ffrindiau newydd, Tamsyn a Josh ddeall beth yn union mae
:-(( ¬:-D :-V i-) yn ei olygu, ac wedyn rhaid ffeindio allan pwy yn union yw ZMASTER a
lle mae on byw. Maer stori dditectif yma wedi ei lleoli yn Efrog Newydd,
Awstralia, Canada a Chaerdydd, a byddwch yn dal eich gwynt wrth i amser dician ymlaen wrth
i Tamsyn a Josh ruthro i gael gafael yn yr holl ddarnau o wybodaeth a fydd yn eu harwain
at y gwir. Stori dda a chyffrous ydi hon sydd yn gyntaf mewn cyfres.
Beth am ymweld â safle gwe Michael Coleman ei hunan, sef www.michael-coleman.com?
|