Mae Aaron wrth ei fodd hefo anifeiliaid dyna ei hoff bethau yn y
byd. Pan achubodd ei dad gi or enw Roli oddi wrth perchennog creulon, roedd
Aaron ai chwaer Steph ar ben eu digon. Ond erbyn hyn mae Dad yn y carchar
ar teulu yn byw mewn lloches syn gwahardd anifeiliaid. Beth fedr Aaron
ei wneud hefo Roli? Roedd on ei guddio yn y car, ond aeth y car ar dân.
Tybed fedr o ddod o hyd i le i Roli gysgu? Os na, efallai y bydd rhaid i Roli fynd i
gartref newydd.
Dyma stori gyffrous ar cyntaf
mewn cyfres newydd or enw Anifeiliaid Aaron gan awdur poblogaidd iawn Emily
Huws. Beth am fenthyg y llyfr or llyfrgell?
|