Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Ydych chi erioed wedi dychmygu byw yn oes y Stiwartiaid yn y flwyddyn 1660?  Dyma eich cyfle gyda nofel newydd Bob Eynon. Tref yn y cyfnod hwn yw Caer Fynach lle mae plant y Siryf Buddug ac Emrys yn byw.  Dyma hefyd y dref lle mae corff dieithryn yn cael ei ddarganfod wedi ei lofruddio.  Arweinia’r llofruddiaeth at nifer o ddigwyddiadau sinistr a chyffroes eraill.  Mae’n fater mor ddifrifol nes fod Capten Lake, milwr o’r fyddin yn dod i ymchwilio.  Mae hyn yn ddechrau antur fawr i Buddug a’i brawd.   Nid yw Capten Lake yn siarad Cymraeg felly maent yn cael y cyfle i’w helpu gyda’i waith o holi’r trigolion.
                                   
Awdur:  Bob Eynon
Cyfres Cled
Cyhoeddwyr: Dref Wen

ISBN: 185596452X